Cofnodion drafft

Y grŵp trawsbleidiol ar ddementia

Dydd Mawrth 11 Chwefror 2014

Ystafell Gynadledda 24, Tŷ Hywel

Pwnc: Cymorth ar ôl diagnosis ar gyfer unigolion a’u teuluoedd

Croeso
Croesawodd Eluned Parrott AC bawb i’r cyfarfod a chyflwynwyd pawb o amgylch y bwrdd.

Yn bresennol: Eluned Parrott AC, Paul Harding (Staff Cymorth Eluned Parrott), Colin Palfrey (Staff Cymorth Lindsay Whittle), Paul Pavia (Staff Cymorth Russell George AC), Ian Johnson (Staff Cymorth Plaid Cymru), Karen Collins (Y Gymdeithas Alzheimer’s), Amy Kitcher (Y Gymdeithas Alzheimer’s), Sarah Rochira (Comisiynydd Pobl Hŷn)

Ymddiheuriadau: Rebecca Evans AC, Llyr Gruffydd AC, Mark Isherwood AC, Darren Millar AC, Julie Morgan AC, Lindsay Whittle AC, Keith Davies AC a Lynne Neagle AC.


Cyflwyniad gan Karen Collins, Gweithiwr Cymorth Dementia, Y Gymdeithas Alzheimer’s

Mae gweithwyr cymorth dementia yn rhoi cyngor a chymorth ymarferol i bobl sy’n byw gyda dementia, er mwyn iddynt ddeall dementia, i ymdopi â’r heriau mae’n ei gyflwyno, ac i baratoi am y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys helpu pobl i gael gafael ar wasanaethau cymorth eraill, ac i adeiladu rhwydweithiau cymorth yn eu cymunedau. Mae gweithwyr cymorth dementia yn ceisio helpu pobl â dementia i deimlo eu bod nhw’n cael eu cefnogi, ac i gynnal eu hannibyniaeth, eu dewisiadau a rheolaeth dros eu bywyd. Maent hefyd yn cynnal asesiadau gofalwyr a gwiriadau budd-daliadau.

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cael diagnosis mewn clinig cof. Unwaith iddynt gael diagnosis, maent yn aml yn ansicr o ran lle i droi am gymorth. Nawr mae’r clinig cof yn eu cyfeirio at weithwyr cymorth dementia y Gymdeithas Alzheimer’s. Ar hyn o bryd, mae yna dri o weithwyr rhan amser yng Nghaerdydd a’r Fro.

Yn ogystal â chymorth a chyfeirio unigol, rydym yn trefnu gweithgareddau grŵp. Rydym yn cynnal:

Grŵp gofalwyr ffurfiol

Grŵp gofalwyr anffurfiol, galw heibio, gyda’r nos

Tri chaffi dementia (Rhiwbeina, Llanilltud Fawr a Butetown)

‘Singing for the Brain’ yn Sblot

Sesiynau ‘Life Story’

Addysg gofalwyr (CRISP) – rhaglen chwe wythnos

Clwb ffilmiau

Mae’r Gymdeithas Alzheimer’s hefyd yn rhedeg canolfan ddydd ar gyfer pobl â dementia, ond mae angen atgyfeiriad gan y gwasanaethau cymdeithasol.

Rydyn ni hefyd yn gwneud gwaith allgymorth yn y gymuned pobl ddu a lleiafrifoedd ethnig, ac rydym yn rhedeg cynllun cyfeillio yn y gymuned honno.

Mae gennym ystod eang o wasanaethau ond un o’r prif heriau yw sicrhau bod pobl yn gwybod ein bod ni’n bodoli.

 

Cyflwyniad gan Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Mae hi’n bwriadu cynnal adolygiad Weledigaeth Genedlaethol Cymru ar Ddementia. Gwnaed nifer o addewidion i bobl Cymru yn 2011. A yw’r addewidion hyn wedi cael eu cadw? A yw bywyd yn well i bobl â dementia dair blynedd yn ddiweddarach?

Bydd yn penderfynu ar y cylch gorchwyl dros yr haf, a bydd yr adolygiad yn cael ei gynnal rhwng mis Hydref a mis Mawrth.

Fodd bynnag, mae hi’n gwybod eisoes mai’r prif bwyslais yw rhoi llais i bobl sydd â dementia a thaflu goleuni ar bethau efallai na fydd pobl am eu gweld.

Bydd yr adolygiad yn cynnwys chwe chwestiwn y mae pobl â dementia wedi gofyn i’r comisiynydd, sef:

1. Pam na ddywedodd neb wrtha i?
2. Pam bod rhaid cael argyfwng cyn imi gael help?
3. Pam nad yw swyddogion/asiantaethau yn siarad â’i gilydd?
4. Pam nad oes neb yn deall?
5. Pwy sy’n gyfrifol?
6. Pwy ddylwn i siarad ag ef?

 

Camau gweithredu

Eluned Parrott: Ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn sut mae’r defnydd o gefnogaeth ar ôl diagnosis yn cael ei fonitro.

Gofal seibiant yw’r prif beth y mae gofalwyr yn gofyn amdano, ac mae ei angen cyn y lefelau sy’n gymwys ar gyfer ymyrraeth gan y gwasanaethau cymdeithasol. Os oes gofal seibiant ar gael yn fwy eang, byddai hyn yn cadw pobl yn eu cartrefi yn hirach ac yn arbed arian i’r system. Bydd yn gofyn cwestiwn llafar i’r Gweinidog ar argaeledd gofal seibiant.

Daethpwyd â’r cyfarfod i ben ac fe wnaeth Eluned Parrott ddiolch i bawb am fod yn bresennol.